Beth ydyn ni ar goll?

 

Ein nod yw cynhyrchu’r mapiau mwyaf cynhwysfawr o ecosystemau cerddoriaeth y dinasoedd. Er mwyn gwneud hynny rydym angen eich help!

Hyd yn hyn, mae’r timau ymchwil wedi casglu gwybodaeth ar gyfer y mwyafrif o’r prif safleoedd cerddoriaeth fyw mewn gwahanol ddinasoedd a rhanbarthau.

Wrth i chi archwilio’r mapiau, fe welwch leoliadau ac arenâu mawr, a hefyd mannau llai i ganolig. Fodd bynnag, rydym yn sicr nad yw hyn yn cynrychioli darlun llawn cerddoriaeth fyw yn y dinasoedd a’r rhanbarthau.

Mae angen eich cymorth arnom. Allwch chi ein helpu i gwblhau’r gwaith hwn trwy rannu gwybodaeth am leoliadau a gofodau nad ydynt ar ein mapiau?

  • A oes Clwb Cymdeithasol yn eich ardal leol sy’n cynnal digwyddiad cerddoriaeth fyw rheolaidd?
  • Oes yna gaffi neu fwyty rydych chi’n mynd iddo sy’n cael noson Meic Agored?
  • Ydych chi’n mynychu digwyddiad cerddoriaeth fyw rheolaidd yn eich ysgol neu fan addoli?
  • Ydy cerddoriaeth fyw yn digwydd mewn mannau annisgwyl – a oes gennych chi gerddoriaeth fyw yn eich clwb Chwaraeon, neu weithle?

Os mai OES neu YDW yw’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod, beth am rannu gwybodaeth amdano gan ddefnyddio’r ffurflen isod.

Cysylltwch â ni!

A byddwn yn dod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

    Gadewch i ni gymdeithasu!

    Edrychwch ar ein proffiliau cymdeithasol!
    LinkedinYouTubeInstagram